Ansawdd aer – Derby, City of Derby
Lefelau llygredd aer a ragwelir for the next 5 days.
Contents
Heddiw
Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol (DAQI)Low air pollution levels expected across the UK on Monday, due to a spell of wet and windy weather moving northwards across all parts.
Gwe Dydd Gwener
Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol (DAQI)On Tuesday, air pollution remaining Low across the UK, as further bands of rain and showers continue to transit northeast.
Sad Dydd Sadwrn
Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol (DAQI)Generally, Low air pollution expected across the UK from Saturday. Chance of isolated moderate pockets of air pollution in Scotland on Sunday and Monday as conditions gradually become more settled.
Sul Dydd Sul
Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol (DAQI)Generally, Low air pollution expected across the UK from Saturday. Chance of isolated moderate pockets of air pollution in Scotland on Sunday and Monday as conditions gradually become more settled.
Llun Dydd Llun
Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol (DAQI)Generally, Low air pollution expected across the UK from Saturday. Chance of isolated moderate pockets of air pollution in Scotland on Sunday and Monday as conditions gradually become more settled.
Y diweddaraf am 6:00am ymlaen 16 Ebrill 2026
Sut gallwch chi leihau'ch amlygiad i lygredd aer
Gall amlygiad hirdymor i lygredd aer (dros flynyddoedd) arwain at lawer o wahanol gyflyrau iechyd a gall leihau disgwyliad oes.
Dylech chi geisio lleihau'ch amlygiad i lygredd aer lle gallwch chi, hyd yn oed pan fo'r lefelau'n isel.
Ystyriwch y camau canlynol:
- cymryd llwybrau lle mae llai o draffig, yn enwedig ar adegau prysur o'r dydd
- cymudo, cerdded neu ymarfer corff mewn parciau neu fannau gwyrdd eraill, os nad yw paill yn effeithio arnoch chi
- os ydych chi'n ymarfer corff dan do, gofalwch fod yr ystafell wedi'i hawyru'n dda
Rhagor o gyngor ar gamau y gallwch eu cymryd i leihau'ch amlygiad i lygredd aer.
Cyngor iechyd ar gyfer lefelau isel o lygredd aer
Mwynhewch eich gweithgareddau awyr agored arferol.
I’r rhan fwyaf o bobl, dyw amlygiad byrdymor i lefelau isel o lygredd aer ddim yn broblem. Ewch ymlaen â’ch gweithgareddau awyr agored arferol.
Gallai rhai pobl brofi symptomau oherwydd llygredd aer, hyd yn oed pan fo’r lefelau’n isel.
Mae oedolion a phlant sydd â chyflyrau’r ysgyfaint neu’r galon yn wynebu mwy o risg o brofi symptomau.
Gallai’r symptomau gynnwys:
- pesychu
- tyndra a phoen yn y frest
- anhawster anadlu
- symptomau asthma gwaeth
- symptomau gwaeth yn gysylltiedig â’r galon, fel crychguriadau’r galon
- symptomau gwaeth clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
Dilynwch gyngor arferol eich meddyg neu’ch nyrs am weithgareddau sy’n heriol yn gorfforol a rheoli’ch cyflwr.
Dilynwch eich cynllun rheoli cytûn os oes un gennych – er enghraifft, cynllun gweithredu asthma. Gofynnwch i’ch meddyg neu’ch nyrs am gynllun os nad oes un gennych.
Ystyriwch effaith sbardunau eraill ar eich symptomau hefyd – er enghraifft, paill uchel y tu allan neu ansawdd aer gwael dan do.
Sut y gall llygryddion aer effeithio ar eich iechyd
Mater gronynnol (PM)
Mae mater gronynnol yn ddarnau mân iawn o ronynnau solet neu hylif sydd wedi'u dal yn yr awyr.Maen nhw'n dod o ffynonellau fel teiars ceir, breciau, pibellau gwacáu, llwch, llosgi coed a phaill.
Nwyon
Yn cael eu cynhyrchu trwy losgi tanwyddau ffosil, er enghraifft, mewn ceir, gorsafoedd pŵer a ffatrïoedd.
Llygryddion aer sy'n cael eu monitro gerllaw
Mae’r darlleniadau’n cael eu mesur bob awr. Mae’r uned µg/m3 yn sefyll am ficrogramau (miliynfed o gram) am bob metr ciwbig o aer.
Contents
- Derby St Alkmund's Way 0.3 miles away
- Derby Stockbrook Park 0.9 miles away
- Burton-on-Trent Horninglow 9.8 miles away
Derby St Alkmund's Way
0.3 milltir i ffwrdd
Mae’r ardal fonitro hon wedi’i lleoli mewn dinas neu dref sy’n agos at ffyrdd, traffyrdd neu briffyrdd.
| Llygrydd | Diweddaraf | Lefel |
|---|---|---|
| PM2.5Amrediad isel 0 i 35 | 5.28 μg/m3 | Isel |
| Nitrogen deuocsidAmrediad isel 0 i 200 | 38.44 μg/m3 | Isel |
Mesur diweddaraf yn 6am ar 16 Ebrill 2026
Derby Stockbrook Park
0.9 milltir i ffwrdd
Mae'r ardal fonitro hon wedi'i lleoli mewn dinas neu dref. Mae wedi'i leoli fel nad yw mesuriadau llygryddion yn dod o un ffynhonnell benodol.
| Llygrydd | Diweddaraf | Lefel |
|---|---|---|
| PM2.5Amrediad isel 0 i 35 | 4.62 μg/m3 | Isel |
| PM10Amrediad isel 0 i 50 | 7.4 μg/m3 | Isel |
| OsônAmrediad isel 0 i 100 | 56.88 μg/m3 | Isel |
Mesur diweddaraf yn 6am ar 16 Ebrill 2026
Burton-on-Trent Horninglow
9.8 milltir i ffwrdd
Mae'r ardal fonitro hon wedi'i lleoli mewn dinas neu dref. Mae wedi'i leoli fel nad yw mesuriadau llygryddion yn dod o un ffynhonnell benodol.
| Llygrydd | Diweddaraf | Lefel |
|---|---|---|
| PM2.5Amrediad isel 0 i 35 | 5.28 μg/m3 | Isel |
| PM10Amrediad isel 0 i 50 | 9.1 μg/m3 | Isel |
| Nitrogen deuocsidAmrediad isel 0 i 200 | 17.79 μg/m3 | Isel |
| OsônAmrediad isel 0 i 100 | 63.66 μg/m3 | Isel |
Mesur diweddaraf yn 6am ar 16 Ebrill 2026