Skip to main content

Rhowch eich adborth ar y gwasanaeth newydd hwn

Llygredd aer yn Glastonbury, Somerset

Camau y gallwch eu cymryd i leihau’ch amlygiad i lygredd aer

Does dim lefel ddiogel o lygredd aer, ond mae yna gamau y gallwch eu cymryd i leihau'ch amlygiad i lygredd aer.

Dylech chi geisio lleihau'ch amlygiad i lygredd aer lle gallwch chi, hyd yn oed pan fo'r lefelau'n isel. Gall amlygiad hirdymor i lygredd aer (dros flynyddoedd) arwain at lawer o wahanol gyflyrau iechyd a lleihau disgwyliad oes.

Ardaloedd trefol

Mae gan ardaloedd trefol fwy na 10,000 o drigolion, er enghraifft tref fawr neu ddinas.

Ystyriwch y camau canlynol os ydych chi’n byw neu’n gweithio mewn ardal drefol:

  • os oes angen ichi gerdded wrth ymyl ffordd brysur, cadwch mor bell o ymyl y ffordd ag y gallwch – mae rhoi hyd yn oed pellter byr rhyngoch chi a’r ffynhonnell llygredd yn lleihau faint o lygredd y byddwch chi’n ei anadlu
  • osgoi gyrru mewn traffig trwm – gall eistedd mewn traffig eich amlygu i lefelau uchel o lygredd
  • gwirio rhagolygon y llygredd i’ch helpu i gynllunio gweithgareddau awyr agored

Ardaloedd gwledig

Mae gan ardaloedd gwledig lai na 10,000 o drigolion, er enghraifft pentref, pentrefan neu dref fach.

Mae rhai llygryddion yn aml yn uwch yng nghefn gwlad, megis osôn.

Ystyriwch y camau canlynol os ydych chi’n byw neu’n gweithio mewn ardal wledig:

  • gwirio am weithgareddau amaethyddol a chynllunio i’w hosgoi – gall aredig caeau, taenu gwrtaith, a chwistrellu plaladdwyr i gyd gynyddu lefelau llygredd aer
  • osgoi coelcerthi a llosgi gwastraff gardd
  • gwirio rhagolygon y llygredd – gall llygredd deithio pellteroedd hir ac allwch chi ddim bob amser weld y ffynonellau

Cyngor cyffredinol

Ystyriwch y camau canlynol mewn unrhyw ardal:

  • cymryd llwybrau lle mae llai o draffig, yn enwedig ar adegau prysur o’r dydd
  • cymudo, cerdded neu ymarfer corff mewn parciau neu fannau gwyrdd eraill, os nad yw paill yn effeithio arnoch
  • os ydych chi’n ymarfer corff dan do, gofalwch fod yr ystafell wedi’i hawyru’n dda

Llygredd aer dan do

Dyw ansawdd yr aer dan do ddim bob amser yn well nag yn yr awyr agored.

Ystyriwch y camau canlynol i wella ansawdd eich aer dan do:

  • osgoi ysmygu neu fepio dan do
  • awyru wrth goginio – er enghraifft, defnyddio ffan echdynnu neu ffenestri agored
  • osgoi llosgi ar stôf neu dân agored os gallwch chi
  • gwirio labeli ar gynhyrchion glanhau, erosolau a phaent – chwiliwch am gynhyrchion sydd wedi’u labelu fel allyriadau isel neu "low VOC"

Os oes angen ichi ddefnyddio cynhyrchion glanhau, erosolau a phaent dan do, dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd a’u defnyddio mewn man sydd wedi’i awyru.

Lleihau’ch cyfraniad at lygredd aer

Ystyriwch y camau canlynol i leihau’ch llygredd aer:

  • cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach
  • gyrru llai, a phan fyddwch chi’n gyrru, gyrru’n ddoethach – rhannu car os gallwch chi, diffoddwch eich injan pan nad ydych chi’n symud, a chadwch eich cerbyd mewn cyflwr da
  • ystyried newid i gerbyd hybrid neu drydan
  • compostio neu fynd â gwastraff gardd i ganolfan sbwriel yn hytrach na’i losgi
  • osgoi llosgi diangen yn y cartref – er enghraifft, defnyddio llosgwr coed neu dân agored
  • os oes angen ichi losgi pren neu danwydd arall ar gyfer gwres, gofalwch eich bod yn defnyddio tanwydd Parod i Losgi a chadwch eich offer yn lân ac mewn cyflwr da