Skip to main content

Rhowch eich adborth ar y gwasanaeth newydd hwn

Llygredd aer yn Glastonbury, Somerset

Sut y gallwch chi leihau'ch amlygiad i lygredd aer

Ansawdd aer gwael yw un o'r risgiau amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig.

Mae'n fygythiad arbennig i grwpiau sy'n agored i niwed, gan gynnwys oedolion a phlant sydd â chyflyrau'r ysgyfaint neu'r galon, a phobl hŷn.

Does dim lefel ddiogel o lygredd aer, ond mae yna gamau y gallwch eu cymryd i leihau'ch amlygiad i lygredd aer.

Sut mae llygredd aer yn effeithio ar y corff

Mae llygredd aer (gronynnau a nwyon) yn mynd i mewn i'n cyrff ac yn gallu niweidio’n celloedd mewn gwahanol ffyrdd. Maen nhw fel arfer yn mynd i'n hysgyfaint yn gyntaf ac yna gallan nhw symud i'n gwaed i gyrraedd ein horganau, fel y galon a'r ymennydd.

Gall unrhyw swm o lygredd fod yn niweidiol i'n hiechyd, ond mwyaf i gyd o lygredd y byddwch chi'n agored iddo, mwyaf i gyd yw'r risg a'r effaith y gall ei chael arnoch chi. Mewn rhai achosion, gall y niwed fod yn raddol ac efallai na fyddwch chi'n sylwi arno am flynyddoedd lawer.

Amlygiad byrdymor i lygredd aer

Gall amlygiad byrdymor (dros oriau neu ddyddiau) achosi ystod o effeithiau ar iechyd, gan gynnwys:

  • pesychu
  • llid yn y llygaid, y trwyn a’r gwddf
  • tyndra a phoen yn y frest
  • anhawster anadlu
  • symptomau asthma gwaeth
  • symptomau gwaeth yn gysylltiedig â'r galon, fel crychguriadau'r galon
  • symptomau gwaeth clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)

Amlygiad hirdymor i lygredd aer

Gall amlygiad hirdymor i lygredd aer (dros flynyddoedd) gynyddu'r risg o gael cyflyrau iechyd penodol.

Mae'r risg yma yn dibynnu ar beth sydd yn yr aer a pha mor hir y byddwch chi'n ei anadlu.

Mae amlygiad hirdymor i lygredd aer, hyd yn oed ar lefelau isel, wedi'i gysylltu â’r canlynol:

  • yr ysgyfaint yn gweithredu’n waeth mewn plant
  • cynnydd mewn afiechydon anadlu
  • clefyd y galon
  • strôc
  • canser
  • dementia
  • diabetes
  • clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
  • clefyd Parkinson
  • clefyd Alzheimer