Skip to main content

Rhowch eich adborth ar y gwasanaeth newydd hwn

Sylffwr deuocsid (SO₂)

Ffynonellau sylffwr deuocsid

Mae sylffwr deuocsid yn nwy di-liw sydd ag arogl cryf. Mae’n cael ei gynhyrchu’n bennaf yn sgil:

  • llosgi petrol neu ddisel mewn cerbydau
  • boeleri nwy
  • pwerdai sy’n llosgi glo
  • gweithgynhyrchu masnachol
  • gweithgynhyrchu bwyd

Effeithiau ar iechyd

Gall amlygiad byrdymor achosi llid ar y canlynol:

  • llygaid
  • trwyn
  • gwddf

Gall amlygiad hirdymor ar lefelau uchel arwain at y canlynol:

  • llai o weithrediad yn yr ysgyfaint
  • newid synnwyr arogli
  • mwy o heintiau’r anadl