Nitrogen deuocsid (NO₂)
Ffynonellau nitrogen deuocsid
Mae nitrogen deuocsid yn nwy di-liw. Mae’n cael ei gynhyrchu’n bennaf yn sgil:
- llosgi petrol neu ddisel mewn injan car
- llosgi nwy naturiol mewn boeler gwres canolog neu orsaf bŵer
- weldio
- defnyddio ffrwydron
- gweithgynhyrchu masnachol
- gweithgynhyrchu bwyd
Effeithiau ar iechyd
Gall amlygiad byrdymor i nitrogen deuocsid achosi:
- pyliau asthma
- heintiau’r anadl
- symptomau cyflyrau’r ysgyfaint neu’r galon i waethygu
Gall amlygiad hirdymor i nitrogen deuocsid achosi:
- mwy o risg o heintiau anadlol
- gwaeth gweithrediad yr ysgyfaint mewn plant