Mater gronynnol (PM10)
Ffynonellau PM10
Mae mater gronynnol (PM) yn ronynnau mân iawn o solidau neu hylifau yn yr aer. Dim ond 10 micrometr mewn diamedr yw’r gronynnau.O ran cyd- destun, mae lled blewyn o wallt dynol yn 50 i 70 micrometr.
Prif ffynonellau mater gronynnol yw:
- llwch o safleoedd adeiladu
- llwch o safleoedd tirlenwi
- llwch o amaethyddiaeth
- tanau gwyllt
- paill
- gorsafoedd pŵer
- Cerbydau
Effeithiau ar iechyd
Mae effeithiau iechyd byrdmor PM10 yn cynnwys:
- anhawster anadlu
- pesychu
- llid yn y llygaid, y trwyn a’r gwddf
- tyndra a phoen y frest
Mae effeithiau hirdymor PM10 yn cynnwys:
- difrod i feinwe’r ysgyfaint
- asma
- methiant y galon
- canser
- clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)