Skip to main content

Rhowch eich adborth ar y gwasanaeth newydd hwn

Mater gronynnol (PM2.5)

Ffynonellau PM2.5

Mae mater gronynnol (PM) yn ronynnau mân iawn o solidau neu hylifau sydd yn yr aer. Dim ond 2.5 micrometr mewn diamedr yw’r gronynnau.O ran cyd- destun, mae lled blewyn o wallt dynol yn 50 i 70 micrometr.

Gall gronynnau PM2.5 gynnwys:

  • llwch
  • huddygl
  • mwg
  • diferion hylif

Prif ffynonellau mater gronynnol yw:

  • llosgi tanwydd mewn cerbydau, diwydiant ac eiddo domestig
  • traul ar deiars a breciau
  • pridd a llwch yn cael eu chwythu gan y gwynt
  • gronynnau ewyn y môr
  • llosgi llystyfiant

Effeithiau ar iechyd

Gall effeithiau iechyd byrdymor PM2.5 gynnwys cyflyrau sy’n gwaethygu, fel:

  • asma
  • clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)

Gall effeithiau hirdymor PM2.5 gynnwys:

  • strôc
  • canser yr ysgyfaint
  • diabetes
  • clefyd Alzheimer a chlefyd Parkinson
  • iechyd ysgyfaint gwael mewn plant