Sylffwr deuocsid (SO₂)
Ffynonellau sylffwr deuocsid
Mae sylffwr deuocsid yn nwy di-liw sydd ag arogl cryf. Mae’n cael ei gynhyrchu’n bennaf yn sgil:
- llosgi petrol neu ddisel mewn cerbydau
- boeleri nwy
- pwerdai sy’n llosgi glo
- gweithgynhyrchu masnachol
- gweithgynhyrchu bwyd
Effeithiau ar iechyd
Gall amlygiad byrdymor achosi llid ar y canlynol:
- llygaid
- trwyn
- gwddf
Gall amlygiad hirdymor ar lefelau uchel arwain at y canlynol:
- llai o weithrediad yn yr ysgyfaint
- newid synnwyr arogli
- mwy o heintiau’r anadl